Pigion: Highlights for Welsh Learners   /     Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 27ain o Chwefror 2024

Description

Pigion Dysgwyr – JapanWythnos diwetha buodd Aled Hughes yn siarad gyda Rhian Yoshikawa sydd yn byw yn Japan. Cafodd e air gyda hi am yr arfer o dynnu sgidiau yn Japan wrth fynd mewn i dŷ rhywun. Ymwybodol AwareYn llythrennol LiterallyGofod SpaceYn y bôn EssentiallyLle ddaru Ble wnaethY tu hwnt BeyondRheolau RulesParch RespectYmddwyn To behaveMeistroli To master Pigion Dysgwyr – Adam JonesTraddodiadau diddorol Japan yn cael eu hesbonio ar raglen Aled Hughes gan Rhian Yoshikawa - diddorol on’d ife? Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd fel mae'n cael ei nabod. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd e’n 3 oed yng ngardd ei dad-cu, neu daid, yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo, a fe ddechreuodd meithrin sgiliau a gwybodaeth garddio Adam.. Balch ProudAr goedd PubliclyCwato To hideRhyched o dato A furrow of potaoesTueddiad A tendencyMas draw Yn fawr iawnGwybedyn bach A small flyAwch A keenessCyfuno To combine Cenedlaethau GenerationsPigion Dysgwyr – Rhys MeirionFelly mae diolch i dad-cu Adam am y rhaglenni garddio gwych sydd ar S4C. Gwestai Shan Cothi yn ddiweddar ar gyfer slot Cofion Cyntaf oedd y canwr Rhys Meirion. Yn y rhan yma o’r rhaglen mae gwestai gwahanol yn cofio eu dyddiau cynnar a rhai o’u hatgofion cynhara. Dyma Rhys Meirion i sôn am ei atgofion e….. Atgofion cynhara Earliest memories Diffoddwr tân Fire ExtinguisherGollwng To dropArogl A smellGwydn Tough Pigion Dysgwyr – RNLIDw i’n siŵr ein bod ni i gyd, fel Rhys Meirion, yn cofio arogl cinio ysgol! Eleni mae’r RNLI yn dathlu penblwydd yn 200 oed. Ers 1824 mae badau achub ar draws Ynysoedd Prydain wedi bod yn achub bywydau a phnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones air gyda Mali Parry Jones o Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Mae hi’n gwirfoddoli gyda Bad Porth Dinllaen a dyma hi’n cofio gweld y bad achub yn mynd allan pan oedd hi’n ifanc. Badau Achub LifeboatsGwirfoddoli To volunteerRhan annatod Integral partGalwad A callClogwyni CliffsYmdrech ehangach A wider effortElusen CharityYsgogi To motivateGwythiennau VeinsPigion Dysgwyr – RentMae’n amlwg bod y badau achub yn chwarae rhan mawr ym mywyd cymuned Morfa Nefyn on’d yw e? Llongyfarchiadau mawr i’r RNLI ar ei ben-blwydd yn 200 oed. Nos Fercher ddiwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Steffan Lloyd. Mae Steffan yn canu mewn cynhyrchiad o’r sioe lwyfan Rent sydd ymlaen ym Mhort Talbot yr wythnos hon. Gofynnodd Caryl i Steffan yn gynta sut mae’r ymarferion wedi bod yn mynd hyd yn hyn Cynhyrchiad Production Cyfarwyddwr cerddoriaeth Musical directorGolygfa SceneCywilydd gen i ddweud I’m ashamed to sayCyflwyno To present Pigion Dysgwyr – JemeimaA phob lwc i Steffan a’r cast ar y perfformiad. Dw i’n siŵr ei bod yn sioe ardderchog.Dych chi’n gwybod am hanes Jemima Nicholas helpodd rwystro glaniad y Ffrancod yn Sir Benfro yn 1797. Wel dyma y Parchedig Richard Davies o Gasnewy(dd) Bach ger Abergwaun i sôn am ddigwyddiad dros y penwythnos i gofio am Jemima ar Bore Cothi fore Iau. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes y diwrnod hwnnw.Rhwystro glaniad To prevent the landingIldio To surrenderAmlwg ProminentDadorchuddio To unveil Mynwent CemetaryCarreg goffa Memoria stoneArddangosfa hanesyddol Historical exhibitionBrodwaith TapestryYsbrydoli To inspireMas Allan

Subtitle
Siapan, Garddio, Atgofion Cyntaf, Bad Achub, Sioe Gerdd "Rent", Jemima Nicholas
Duration
835
Publishing date
2024-02-27 14:28
Link
http://www.bbc.co.uk/programmes/p0hf936b
Contributors
  BBC Radio Cymru
author  
Enclosures
http://open.live.bbc.co.uk/mediaselector/6/redir/version/2.0/mediaset/audio-nondrm-download/proto/http/vpid/p0hfc072.mp3
audio/mpeg