Pigion: Highlights for Welsh Learners   /     Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 19eg o Fawrth 2024

Description

DROS GINIO 11.03.24Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae’r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae’r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?Ympryd A fastCymuned CommunityNodi To markCrefyddol ReligousDatgelu To revealHunanddisgyblaeth Self disciplineLlai ffodus Less fortunateAnsicrwydd UncertaintyHeriol ChallengingAdlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai’n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i’r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy’n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.Cynhyrchu To produceGwinllan VinyardHer A challengeGrawnwin GrapesLlethr SlopeGwerthfawrogi To appreciateAddas AppropriateSefydlu To establishMicro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munudGwinwydd VinesArallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on’d oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e’n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe’n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...Rhydychen OxfordGwlad y Basg The Basque CountryOfferyn InstrumentGwneuthurion ManufacturersPreniach Small pieces of woodPastynau ClubsGwledda To feastWedi swyno CharmedYmatebol ResponsiveLlanast MessRhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a’r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...Rhufain RomeCwrs Preswyl Residential courseYmarfer To practiceDROS FRECWAST 14.03.23Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai’n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.Rhestr fer Short listPenderfyniad enfawr Huge decisionCyflawni To achieveY cyhoedd The publicUchafbwynt HighlightBETI A’I PHOBOL 17.03.24George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!Trueni BechodSylw a stwr Fuss and attentionCefn gwlad The countrysideEnwoca The most famousBodoli To exist

Subtitle
Ramadan, Gwinllan, Bardd y Mis, Dysgu Cymraeg, George North, Chef yn Llundain
Duration
956
Publishing date
2024-03-19 14:00
Link
http://www.bbc.co.uk/programmes/p0hkjv46
Contributors
  BBC Radio Cymru
author  
Enclosures
http://open.live.bbc.co.uk/mediaselector/6/redir/version/2.0/mediaset/audio-nondrm-download/proto/http/vpid/p0hkjsgj.mp3
audio/mpeg