Pigion: Highlights for Welsh Learners   /     Podlediad Pigion y Dysgwyr y 26ain o Fawrth 2024

Description

Pigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Shelley Musker Turner sy’n aelod o’r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi’n sôn mwy am y gwaith Cyfrwywr SaddlerCymwysterau Qualifications Ffodus LwcusCreadigol CreativeAil-greu To recreateLledr LeatherCyfrwy SaddleAr waith In the pipeline Amrywiaeth Variety Pigion y Dysgwyr – Mike Olson Waw, mae Shelley wedi gweithio ar rai o’r ffilmiau mwya enwog, on’d yw hi? Daw Mike Olson o Winnipeg yng Nghanada yn wreiddiol ond mae e wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Fe yw Dysgwr y Flwyddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mike ddydd Mercher ar ei raglen, a dyma’r cwestiwn cynta ofynnodd Aled iddo fe... Iechyd Cyhoeddus Public HealthCydweithiwr Co-workerSylwi To noticeHeb os nac oni bai Without doubtBrwdfrydedd EnthusiasmY cyfnod clo The lockdownDegawd DecadeYmdrech Effort Pigion y Dysgwyr – Cofio Y Gwanwyn Mike Olson oedd hwnna’n sôn am ei daith i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Y Gwanwyn oedd thema rhaglen archif Radio Cymru “Cofio” yr wythnos hon. A phob Gwanwyn wrth gwrs mae’r clociau yn cael eu troi ymlaen awr. Dyma’r hanesydd Bob Morus i esbonio pam dyn ni’n gwneud hyn, a syniad pwy oedd e yn y lle cynta Ymgyrch CampaignYmwybodol AwareGoleuni LightGlynu To stickGalluogi To enableHeulwen liw nos Evening sunEnnyn cefnogaeth To elicit supportMesur A BillDeddf StatuteCynhyrchu arfau Arms manufacturingAr fyrder In hastePigion y Dysgwyr – Liz Saville Roberts Cofiwch droi’r clociau yna ymlaen cyn mynd i’r gwely nos Sadwrn nesa, ac roedd hi’n ddiddorol cael gwybod ychydig o hanes yr arfer yma on’d oedd hi? Liz Saville Roberts yw Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac mae hi newydd ymddangos ar restr flynyddol cylchgrawn ‘The House’ sef ‘Merched San Steffan 2024 – y 100’.. Beth mae Liz yn ei feddwl o fod ar y rhestr hon? San Steffan WestminsterBraint PrivilegeCydnabod AcknowledgeDylanwadu To influenceYn eu plith nhw Amongst themPleidiau gwleidyddol Political partiesAwch EagernessYsgogiad MotivationRhagflaenydd Predecessor Pigion y Dysgwyr – Geraint Jones A llongyfarchiadau i Liz Saville Roberts ar ennill ei lle ar y rhestr bwysig hon on’d ife? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon oedd Geraint Jones. Mae e’n dod o Sir Benfro a dyma fe’n sôn am ei dad, oedd yn blismon pentre yng ngogledd y Sir. A cofiwch bod cyfle i glywed y rhaglen hon i gyd drwy fynd i BBC Sounds. Cyfrifol am Responsible forLles WelfareTrwyddedau LicensesYn feunyddiol DailyCarcharor PrisonerGwendidau WeaknessesLleithio Becoming damp Pallu MethuBygwth gwae ThreateningLlyw Steering wheelPigion y Dysgwyr – Caryl Wel dyna stori ddoniol, a dw i’n siŵr bod llawer o straeon eraill gan Geraint am ei dad y plismon pentre. Ar ei rhaglen nos Fercher ddiwetha cafodd Caryl sgwrs gyda Huw Rowlands sy wrth ei fodd gyda choginio, ac sydd yn hyfforddi teuluoedd i goginio. Dyma fe i ddweud mwy am sut cychwynnodd y fenter hyfforddi a hefyd am sut dechreuodd e ei hunan goginio Ysbrydoliaeth InspirationDenu dy sylw di Drew your attentionPice ar y maen Welsh cakesCas-gwent Chepstow Cynhwysion IngredientsLlwyfannau cymdeithasol Social mediaRyseitiau pobi Baking recipesCacen glou A quick cake

Subtitle
Cyfrwywr, Dysgu Cymraeg, Troi y Clociau ymlaen, Liz Saville Roberts, Plismona, Coginio
Duration
1025
Publishing date
2024-03-26 14:00
Link
http://www.bbc.co.uk/programmes/p0hlsx8r
Contributors
  BBC Radio Cymru
author  
Enclosures
http://open.live.bbc.co.uk/mediaselector/6/redir/version/2.0/mediaset/audio-nondrm-download/proto/http/vpid/p0hlsw7w.mp3
audio/mpeg