Pigion: Highlights for Welsh Learners   /     Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 9fed 2024

Description

Pigion y Dysgwyr - Rosalie Caryl 020224Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau’r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel WarAtgofion MemoriesMynyddog MountainousAnferth HugeBobol annwyl Goodness me Llong ShipGrawnwin Grapes Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell Aled Hughes 030424Rosalie Lamburn oedd honna’n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi’n chwech oed. Dych chi’n un o ‘r rhai sy’n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu’r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae’n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on’d yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o’i gwyliau iddi hi...Traddodiad TraditionCelf ArtLlawn bwrlwm BuzzingCynnyrch lleol Local producePwytho â llaw HandstitchedPren Wood Cysylltiad ConnectionAtyniad AttractionPigion y Dysgwyr – Clare Mackintosh Dros Ginio 02.04.24Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw’r holl fagnetau na? Mae’r awdures Clare Mackintosh, sy’n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni’n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i’r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar…Ffuglen a throsedd Fiction and crimeDiweddara Most recentGalar GriefDynes MenywCennin Pedr DaffodilsAmser maith yn ôl A long time agoYn union ExactlyPigion y Dysgwyr – Cerys Hafana Beti a’i Phobol 070404A dw i’n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos. Tair perfformwraig sydd i’w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda’r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a’i Phobol ddydd Sul, Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi’n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu’r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi’n sôn am hanes ei theulu….Cysur ComfortTelynores HarpistArddull StyleChwarelwyr QuarrymenDychwelyd To returnCwympo To fall Pigion y Dysgwyr – Golden Oldies Bore Cothi 020404Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a’r haf – cerwch i’w gweld os cewch chi gyfle, mae’n delynores arbennig iawn. Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy’n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi’n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn...Hamddenol Leisurely Profiad Experience Llwyfannau Stages Nefoedd annwyl Good HeavensPigion y Dysgwyr – Connie Orff Caryl 030204Wel pob lwc i’r Golden Oldies on’d ife? Mae’n swnio’n brosiect diddorol a hwyliog iawn. Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy’n gwneud perfformiad drag llwyddiannus … Dylanwadau InfluencesUniaethu fel To identify asFfraeth WittyIsraddol InferiorCaniatáu To permit

Subtitle
Dysgu Cymraeg, Magnetau Oergell, Galar, Cerys Hafana, Canu Corawl, Drag
Duration
936
Publishing date
2024-04-09 13:00
Link
http://www.bbc.co.uk/programmes/p0hppyz6
Contributors
  BBC Radio Cymru
author  
Enclosures
http://open.live.bbc.co.uk/mediaselector/6/redir/version/2.0/mediaset/audio-nondrm-download/proto/http/vpid/p0hppvv1.mp3
audio/mpeg